Yr Haclediad
Barn heb ymchwil na gwybodaeth.
About the show
Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™
Episodes
- 
    Google Assiffestant14 May 2018 | 1 hr 23 minsAr bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch! 
- 
    Zuckin’ Hell16 April 2018 | 1 hr 53 minsY tro yma ar yr Haclediad, ni'n mynd am deep dive mewn i uffern Facebook, Cambridge Analytica, ac mae Bryn yn treulio'r awr a hanner gyntaf yn ysgwyd ei ben a mwmian "be oeddech chi'n disgwyl?" OND arhoswch am yr afterparty am lwyth o hunan ofal, pobi, ac awgrymiadau be i wylio/gwrando arno am y mis nesa. 
- 
    Iâ Iâ Baby9 March 2018 | 1 hr 55 minsY tro yma ar yr Haclediad rhewllyd, bydd Bryn, Iest a Sions yn gwirioni dros Waze Cymraeg, smart sbecs sy’n edrych yn union fel rhai Bryn ac Elon Musk yn fflingio mwy o bethau i’r gofod. Plis sdiciwch adolygiad yn iTunes os gewch chi 5 munud fyd, ffankiw! 
- 
    Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed8 February 2018 | 1 hr 5 minsCroeso i bennod cyntaf 2018 - yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes! 
- 
    May The Port Be With You22 December 2017 | 2 hrs 13 minsYm mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn 2018! 
- 
    Drive By Sextoy Hack-lediad18 November 2017 | 1 hr 58 minsAr yr Haclediad diweddaraf bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod Freakouts Algorythmic Peppa Pinc, hacio teclynnau rhyw, Haciaith 2018 ac adolygiad S4C - llwythi mwy doniol na mae’n swnio, addo! Mae’r afterparty yn llawn pop-culture, Netflix a sut bo iPhone X yn costio mwy na rhent. Plus, mae’r A-Gin-Da arbennig o dda mis ‘ma. Welwn ni chi tro nesa am y parti ‘Dolig! 
- 
    iOS gafr eto?7 October 2017 | 1 hr 23 minsMae criw’r haclediad yn dychwelyd i tech o’r diwedd! Llwyth o stwff sgleiniog Silicon Valley, Zuckerberg yn agor y bocs ac oes pwynt mewn gajets o gwbl? Arhoswch am yr after party am yr Iest Rhest a llwythi mwy! 
- 
    Social Justice Warriars8 September 2017 | 1 hr 26 minsMae’r hydref yma, mae’n amser prynu shares mewn carthenni a pumpkin lattes… a cwtsho lan gyda’r Haclediad am awr fach. Heno ar y sioe bydd Bryn, Sions a Iestyn yn trafod swigen confirmation bias Cymraeg, sut i ymladd carnage carnifal, ac yn recordio’r holl beth cyn cyhoeddiadau Apple am yr iPhone X ac 8, soz. Welwn ni chi mis nesa, diolch am wrando dwds! 
- 
    Buspass Nains7 July 2017 | 1 hr 15 minsLlwythwch eich podfachwyr gyda'n rhifyn diweddaraf a joiwch yr haf! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod Hansh a Nation.cymru, cops a bychs arlein a pha mor hawdd ydi hi i fynd yn gaeth i scrolls diddiwedd. Hyn i gyd a llwyth o falu awyr, fydd digon i greu awel oer neis ar eich gwyliau. Bonws! 
- 
    Bryn on the Thunder30 May 2017 | 1 hr 10 minsYm mhennod danbaid 59 bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo Google i/o, yr Echo Show ac SOS yr NHS mewn tameidiau taclus o 10 munud (efo larwm newydd ‘fyd!). Ar ôl y gwychrwydd cwic-fire yna, bydd crwydrsgwrs draddodiadol am unrhyw beth arall sy’n popio mewn i’n pennau, E-readers yn y bath a BrynBlin™ 
- 
    Spring Breykjavik4 May 2017 | 1 hr 27 minsY tro yma ar dy hoff bodlediad nerdaidd - mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio cadw’r newyddion i 10 munud y pop, mewn ymgais anhygoel i gael strwythur i’r sioe. 
- 
    Yr Hashnods Perthnasol5 April 2017 | 1 hr 13 minsYm mhennod ddiweddaraf yr Haclediad bydd y Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut gall yr hashnods cywir ddileu terfysgaeth, pam mai dal dim ond bŵz siomedig sydd gan Sioned, Brwydr y Barfau a holi faint o turn on yw’r Switch. Ymunwch â nhw am awr o farn heb ymchwil na gwybodaeth, falle fydd o’n hwyl! 
