Episode 114

Contrepreneurs

00:00:00
/
03:00:38

30 September 2022

3 hrs 38 secs

Your Hosts

About this Episode

Oeddech chi’n meddwl bod dim Haclediad am fod mis yma? Dim y fath lwc, yn hwyr neu’n hwyrach dyma hi, Haclediad mis Medi!

Mae Bryn yn ôl o’i wyliau yn yr Eidal (dydi o ddim yn licio siarad amdano) ac yn barod i drafod newyddion tech efo Iestyn a Sioned.

Bydd y criw yn trafod fideo newydd Dan Olson am Evans passive income, hardware newydd Amazon a cynhyrchiad theatr / ffilm / arlein newydd trippy “Galwad”.

Yn fwy na hyn, bydd y criw yn trafod o bosib y ffilm di ddim di-ddimiaf ohonynt i gyd: MOONFALL (spoilers: pa un o’r tri sy fwya blin efo hwn? The answer might surprise you!)

Diolch o galon i bawb am gefnogi a gwrando - os hoffech chi gefnogi ni, taflwch geiniog it het fan hyn, neu rhannwch ni gyda’ch ffrindiau!

Support Yr Haclediad

Episode Links

Episode Comments

Mastodon