Episode 23

23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012

00:00:00
/
00:52:58

20 August 2012

52 mins 58 secs

Your Hosts

About this Episode

Rhifyn arbennig o’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes[1] yn ogystal â lleisiau melfedaidd eich cyflwynwyr.

Ac wrth gwrs, mae digon o’r rantio a rwdlan hwyl arferol i’w gael yn yr Haclediad hefyd, felly s’dim angen i chi boeni! Mwynhewch bodlediad gorau’r hâf[1] ar eich peiriant NAWR

O.N. Mae’n ddrwg gennym am ansawdd y sain (Gafyn wedi trio ei orau efo be recordiwyd), ond pe bai rhywun yn awyddus i gyfrannu ychydig o feicroffonau i’r achos…

Dolenni


  1. Nid yw pob un o’r datganiadau hyn yn ffeithiol gywir  ↩

The post Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Support Yr Haclediad

Episode Comments

Mastodon