Bryn Salisbury
Co-Host of Yr Haclediad
Petty dabbler, materials botherer, podcaster, improviser, Martini maker & whisky imbiber
Bryn Salisbury has hosted 140 Episodes.
-
Bŵz rhad a Nokias anfarwol
10 March 2017 | 1 hr 5 mins
Ym mhennod yma stori epic trawsnewidiad yr Haclediad o raglen tech i raglen gwirod a nostalgia; ry’n ni’n edrych ar y Nokia 3310, sy’ wedi ei atgyfodi, yn galaru am wasanaethau Google sy’n sicr ddim, ac yn chwennychu am Nintendo Switch, iei!
Hyn i gyd a llwyth o sgwrsio, rhegfeydd a barn heb wybodaeth, yn amgz… -
Episode 55: Nerdageddon yn Hacio'r Iaith 2017
31 January 2017 | 41 mins 11 secs
haciaith
Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor!
-
Episode 54: Minilediad Hacio'r Iaith 2017
16 January 2017 | 36 mins 45 secs
Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain - ni’n edrych mlaen i’ch gweld chi yna!
-
Episode 53: HacDolig 2016
14 December 2016 | 1 hr 35 mins
O’r diwedd, mae 2016 yn dod i ben, a mae’n amser am barti Nadolig yr Haclediad – mae na damed lleia o tech yn y bennod, ond llwyth o bŵz a trio argyhoeddi pawb y bydd popeth yn iawn yn y diwedd. Ciciwch tîn 2016 efo ni, Dolig Llawen!
-
Episode 52: 52: Oi! Chdi! Teclyn!
14 October 2016 | 1 hr 23 mins
Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned[...]
-
Episode 51: 51: Parti Haf
26 August 2016 | 1 hr 6 mins
Mae’r criw yn cymryd bach o hoe o fyd cymhleth tech am y rhifyn yma, ar feib hafaidd byddwn yn gwrando ar tiwns trwy Apton, a syllu’n gegrwth ar No Man’s Sky. Bydd lwyth o sgwrsio am y Iest Rhest(r) o’r holl Netflix/Amazon Prime/Ffilms ‘da ni heb ga[...]
-
Episode 50: 50: Canol Oed
9 June 2016 | 1 hr 21 mins
Croeso i bennod restrospectif (a hyd yn oed mwy random nac arfer) arbennig o’r Haclediad yn dathlu cyhoeddi ein hanner canfed podlediad. Bydd Bryn, Sioned ac Iestyn yn mynd a chi nôl trwy’r archif, ond yn trafod stwff heddiw hefyd fel bw[...]
-
Episode 49: 49: Haciaith 2016
28 April 2016 | 44 mins 54 secs
Mentrodd 66% o griw’r Haclediad i ddigwyddiad byw Hacio’r Iaith 2016 yng Nghaerdydd – ar cyfan gewch chi di’r podlediad ma! Buodd Bryn a Sioned yn cyfweld creawdwyr Macsen, llais AI cynta’ Gymraeg, yn ogystal â bwyta llawer [...]
-
Episode 48: 48: OMB Haclediad arall syth bin!
13 April 2016 | 1 hr 18 mins
Haclediad newydd i’ch clustiau mewn llai na 6 mis? Be sydd, yn wir, haru ni? Tro yma bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod iPhones newydd (dyna sioc), Apple yn 40, rhwydwaith cymdeithasol kawaii ru hwnt newydd Nintendo, pa hawl sgen yr FBI i’ch gwybo[...]
-
Episode 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap
7 March 2016 | 51 mins 55 secs
Ar Haclediad cynta’r flwyddyn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn busnesa yn sioe tech CES, yn clywed mwy am Bryn ar y radio, snarkio am Snapchat a phendroni am BT Openreach (mwy diddorol nac y mae’n swnio, addo!). Fel pob rhifyn arall byddwn yn pigo’r go[...]
-
Episode 46: 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd
24 December 2015 | 55 mins 20 secs
Croeso i Sioe ho-ho-hollol Nadoligaidd yr Haclediad – tro yma byddwn yn taflu’r sgript mas trwy’r ffenest ac yn holi’n daer ar Siôn Corn am anrhegion tech sgleiniog, pethau newydd i’w chwarae â nhw, a heddwch ar ddaear lawr (yn amgz).
Felly do[...] -
Episode 45: 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo
6 November 2015 | 58 mins 25 secs
Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol [...]