Yr Haclediad
Barn heb ymchwil na gwybodaeth.
About the show
Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™
Episodes
-
Flappy Engines
28 February 2021 | 2 hrs 50 mins
Dewch i fwynhau * 2+ awr o tech, sgwrs a films gwael gyda Iestyn, Bryn a Sioned - mis yma da ni nôl ar y blockchain yn prynu celf, yn gamifyo ein pelvic floor muscles ac yn canu marwnad i Daft Punk (RIP Robots Trist).
-
Blew a Bara
31 January 2021 | 2 hrs 39 mins
Croeso i 2021, yn llawn gobaith, uncorns ac enfysau... Neu just blwyddyn arall o tech bants, booze a ffilms gwael gyda Bryn, Iestyn a Sioned 😍
-
NaDollyg Llawen 2020
23 December 2020 | 2 hrs 21 mins
Ydy, mae popeth yn eitha ofnadwy ar hyn o bryd - ond mae Bryn, Iest a Sioned yma i sgwrsio am 2 awr a chadw cwmni i chi ☺️🍷❤️
-
Manic Pixie Dream Hars Box
22 November 2020 | 2 hrs 56 mins
Gweithio o adre? Isie esgus bod ganddo chi ffrindiau yn malu cachu ar y ddesg drws nesa? Dyma’r union beth i chi- Haclediad #92!
-
Rheg Mlynedd yn y Busnes
25 October 2020 | 3 hrs 17 mins
Logiwch allan o fywyd go-iawn am bnawn, joiwch Lockdown 2: Electric Boogaloo a dewch i ddathlu 10 mlynedd o’r Haclediad!
-
Pope on a Rope
27 September 2020 | 2 hrs 38 mins
Ar bennod diweddaraf eich hoff bodlediad 2awr+ bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod llwyth o gyhoeddiadau Apple newydd, Android 11, Q-Anon yn cyrraedd Caerdydd, algorithmau hiliol a llawer mwy.
-
Apple, Epic a’r Gwyddonydd Cwerylgar
24 August 2020 | 2 hrs 20 mins
🍹Ar bennod ddiweddaraf yr Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cymryd amser allan o’u bywydau jet-set i ymlacio a chael parti haf. Ry’n ni yma gyda llond pwll padlo o storis “ffycin adorable” am y tech diwedaraf a Ffilm Di Ddim anhygoel arall gan frenin y genre: Gerard Buttwad.
-
Werewolf SuperTed
24 July 2020 | 2 hrs 35 mins
Ar bennod gorlawn ddiweddara’r Award-Winning Haclediad🥈 mae Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod chips Afal, mwy o Huawe-hei, Henry Cavill yn adeiladu PC mewn vest, e-scooters a llwythi mwy.
-
Rhagflast o'r Podcast
14 July 2020 | 14 mins 59 secs
Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn a llawer mwy, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru
-
Mr Mistoffe-plîs stopia
19 June 2020 | 2 hrs 37 mins
Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER mwy.
-
Crims Hems-worth it?
22 May 2020 | 2 hrs 38 mins
Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs, app tracio symptomau hollbwysig ond doomed NHSx a llwythi mwy.
-
Da Di Dane DeHaan De?!
24 April 2020 | 2 hrs 16 mins