Yr Haclediad

Episode Archive

Episode Archive

146 episodes of Yr Haclediad since the first episode, which aired on 25 October 2010.

  • Tri Gwirod Doeth

    21 December 2018  |  1 hr 51 mins

    Mae'r tân yn craclo, yr hors d'oeuvres allan o'r tupperware a mae Iest yn gwisgo ei hoff ffroc goctail sbarcli - ydi, mae'n amser am barti Nadolig yr Haclediad! Yn y garthen glyweledol yma bydd Iest, Sions a Bryn yn yfed gormod, trafod eu hoff ddarnau o'r flwyddyn AC YN TRIO AROS YN BOSITIF!

  • Ffototal Wipeout

    12 November 2018  |  1 hr 30 mins

    Ar bennod mis tywyll Tachwedd - bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud tata wrth terabytes o luniau Flickr, trafod y Google walkout a jyst pa mor doji ydy Silicon Valley.

  • Toilet BlockChain

    1 October 2018  |  1 hr 38 mins

    Croeso i Haclediad cynta’r Hydref – mae Bryn newydd ddod nôl o Chicago, Iestyn yn ei mansion newydd yn Dre ac yn paratoi i redeg hanner Marathon, a mae Sioned yn yfed Öl Mörk a hen wîn. OND mewn newyddion tech, mae iOS12 a’r oriawr Apple newydd allan, a da ni’n trio dod i ddeall y blockchain efo podlediad ZigZag (spoilyrs: dal dim clem).

  • Llyfr Glas Kobo

    18 August 2018  |  1 hr 7 mins
    ar, eisteddfod, elyfrau, google, llyfrau llafar, nest, vr

    Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd "Y Pod", planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a wifi

  • Yn Fyw o’r Boudoir

    15 June 2018  |  1 hr 18 mins

    Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad

  • Google Assiffestant

    14 May 2018  |  1 hr 23 mins

    Ar bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch!

  • Zuckin’ Hell

    16 April 2018  |  1 hr 53 mins

    Y tro yma ar yr Haclediad, ni'n mynd am deep dive mewn i uffern Facebook, Cambridge Analytica, ac mae Bryn yn treulio'r awr a hanner gyntaf yn ysgwyd ei ben a mwmian "be oeddech chi'n disgwyl?" OND arhoswch am yr afterparty am lwyth o hunan ofal, pobi, ac awgrymiadau be i wylio/gwrando arno am y mis nesa.

  • Iâ Iâ Baby

    9 March 2018  |  1 hr 55 mins

    Y tro yma ar yr Haclediad rhewllyd, bydd Bryn, Iest a Sions yn gwirioni dros Waze Cymraeg, smart sbecs sy’n edrych yn union fel rhai Bryn ac Elon Musk yn fflingio mwy o bethau i’r gofod. Plis sdiciwch adolygiad yn iTunes os gewch chi 5 munud fyd, ffankiw!

  • Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed

    8 February 2018  |  1 hr 5 mins

    Croeso i bennod cyntaf 2018 - yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes!

  • May The Port Be With You

    22 December 2017  |  2 hrs 13 mins

    Ym mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn 2018!

  • Drive By Sextoy Hack-lediad

    18 November 2017  |  1 hr 58 mins

    Ar yr Haclediad diweddaraf bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod Freakouts Algorythmic Peppa Pinc, hacio teclynnau rhyw, Haciaith 2018 ac adolygiad S4C - llwythi mwy doniol na mae’n swnio, addo! Mae’r afterparty yn llawn pop-culture, Netflix a sut bo iPhone X yn costio mwy na rhent. Plus, mae’r A-Gin-Da arbennig o dda mis ‘ma. Welwn ni chi tro nesa am y parti ‘Dolig!

  • iOS gafr eto?

    7 October 2017  |  1 hr 23 mins

    Mae criw’r haclediad yn dychwelyd i tech o’r diwedd! Llwyth o stwff sgleiniog Silicon Valley, Zuckerberg yn agor y bocs ac oes pwynt mewn gajets o gwbl? Arhoswch am yr after party am yr Iest Rhest a llwythi mwy!

Mastodon