Yr Haclediad

Episode Archive

Episode Archive

133 episodes of Yr Haclediad since the first episode, which aired on 25 October 2010.

  • Episode 20: 20: Yr un am y Ffôns a'r Porn

    9 May 2012  |  49 mins 21 secs

    Amser maith yn ôl, mewn bydysawd pell i ffwrdd (well, Dydd Gwener ddiwethaf), ddaru ni (Sioned, Iestyn a Bryn) ymgasglu i drafod y digwyddiadau yn y byd technegol… dan drafodaeth oedd Ffôn newydd Samsung, sydd ddim mor hot ‘na ny. Cynllu[...]

  • Episode 19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!)

    7 April 2012  |  59 mins 15 secs

    Da ni’n agosáu at yr 20 fawr, felly tan hynna mwynhewch rifyn eclectig 19 o’r Haclediad! Mis ‘ma bydd Sioned (@llef) Bryn (@bryns) ac Iestyn (@iestynx) yn trafod yr iPad 3 gan fod Bryn wedi cael un neu ddau, gwrandewch am y stori s[...]

  • Episode 18: “Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mai Hacledio”

    28 February 2012  |  53 mins 18 secs

    Helo wrandawyr! Ar yr Haclediad mis yma – bydd Bryn, Iestyn a SIoned yn trafod sut aeth Hacio’r Iaith 2012 (ardderchog, wrth gwrs), dyfodiad Sianel 62 i’ch dyfeisiau bob nos Sul (darlledir y chwyldro arlein?), deddfwriaeth ACTA (yd[...]

  • Episode 17: Yr Un Byw o Hacio’r Iaith 2012

    7 February 2012  |  43 mins 28 secs

    Dyma recordiad byw Haclediad #17, o flaen cynulleidfa eiddgar yn Hacio’r Iaith 2012.
    Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo SOPA bill yr Unol Daleithiau, Twitter yn sensro cynnwys am y tro cyntaf, blogiau Cymraeg, cwestiynau’r  gynulleidfa,[...]

  • Episode 16: Yr Un Sâl!

    9 January 2012  |  1 hr 19 secs

    Croeso i Haclediad #16: Yr Un Sâl! Ar ddechrau 2012 byddwn ni yn trio ymladd y ffliw ac yn dod â thameidiau blasus y flwyddyn a fu a’r flwyddyn i ddod i’ch clustiau! Byddwn yn trafod y tech gorau o 2011, ac yn darogan pa ddyfeisiau neu g[...]

  • Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C

    20 December 2011  |  49 mins 18 secs

    Anrheg Nadolig cynnar i chi Hacledffans, dyma ein hasesiad ni o adroddiad Panel Digidol S4C – Cofleidio’r Dyfodol. Mae Rhodri ap Dyfrig (@nwdls), aelod o’r panel yn mynd a ni trwy’r adroddiad, a be mae’n meddwl i ni dde[...]

  • Episode 15: Yr un Gaeafol

    5 December 2011  |  55 mins 50 secs

    Croeso i rifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn (@Bryns), Iestyn (@Iestynx) a Sioned (@llef) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio[...]

  • Episode 14: Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

    7 November 2011  |  1 hr 9 mins

    Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau[...]

  • Episode 13: Tân ac Afalau

    7 October 2011  |  59 mins 53 secs

    Gyda Apple yn dod a’r iPhone 4S i’r byd ac Amazon yn cynnau’r Kindle Fire, mae’n frwydr y ffanbois yn rhifyn hwn yr Haclediad. Yn symud ‘mlaen o’r Kindle Fire, byddwn yn trafod sefyllfa siomedig e-lyfrau Cymru, aw[...]

  • Episode 12: Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

    6 September 2011  |  51 mins 14 secs

    Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle [...]

  • Episode 11: Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

    28 July 2011  |  1 hr 3 mins

    Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar  y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd iSdeddfod gan griw Fo [...]

  • Episode 10: Yr un niwlog

    30 June 2011  |  53 mins 46 secs

    Dyma fo’n boeth i’ch clustiau chi (sôn am boeth, gwrando perffaith i’r gwyliau!) – Haclediad 10, neu Haclediad X i chi ddefnyddwyr Apple.
    Byddwn yn cael cipolwg ar gemau am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn, gyda newyddion am yr W[...]

  • Episode 9: 9: Yr un [redacted]

    27 May 2011  |  1 hr 11 mins

    Megis ffreis Ffrengig a Big Mac dyma Haclediad #9 mewn amser record o gyflym! Croesawn y polymath cyfryngol Cymraeg, Rhodri Ap Dyfrig (@nwdls) i’r Haclediad am y rhifyn hwn; a byddwn yn trafod dyfodiad iPhone app S4C, sïon yr iPhone 5, e-ddar[...]

  • Episode 8: 8: Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8!

    21 May 2011  |  45 mins 20 secs

    Mae hwn wedi bod yn bragu gyda ni ers tipyn, ond yn y rhifyn blasus hwn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y stori (neu beidio) o dracio lleoliad gan Apple, sut wnaeth y briodas Frenhinol styrbio trydar y genedl a phroblemau dybryd y Rhwydwaith Pl[...]

  • Episode 7: 7: Yr un sy’n Magnifico

    5 April 2011  |  49 mins 17 secs

    Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw, Bryn, Iestyn a Sioned. Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf Lleol.net, datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan Golwg360 ac erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddif[...]

  • Episode 6: Yr un ar ôl yr un byw!

    2 March 2011  |  55 mins 54 secs

    Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw!
    Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i [...]

Mastodon